Dw i’n cofio wythnos fendigedig yn Nhresaith…
Y Bechgyn
Rhyw ddydd yn y dyfodol, efallai pan maen nhw’n chwech neu saith mlwydd oed…
Roedd Emrys ac Ioan yn eistedd ar garreg fawr ar bwys y traeth yn Nhresaith. Roedden nhw’n edrych ar draws y dŵr.
Dwedodd Ioan, “Wi’n moyn hwylio ar y môr rhyw ddydd. Tasen i’n hwylio ar y môr, bysen i’n hwylio yn gyflym.”
Dwedodd Emrys, “Taset ti’n hwylio ar y môr, bysen i’n hwylio ar y môr hefyd.”
“Taset ti’n hwylio ar y môr hefyd, bysen i’n hwylio yn gyflymach.”
“Taset ti’n hwylio yn gyflymach, bysen i’n hwylio yn gyflymach na ti.”
“Wel,” dwedodd Ioan, “tasen i’n hwylio ar y môr, bysen i’n hwylio ar y môr mewn cwch mawr yr holl ffordd i Iwerddon.”
Meddyliodd Emrys dipyn o amser, ac wedyn dwedodd, “Bysen i’n hwylio ar y môr mewn cwch mawr iawn i Iwerddon, ac wedyn yr holl ffordd i Wlad yr Iâ.”
“Wir?” Edrychodd Ioan ar Emrys, ac wedyn edrychodd ar y môr eto. Tipyn bach nes ymlaen, dwedodd Ioan, “Wi’n moyn hedfan mewn awyren rhyw ddydd. Tasen i’n hedfan mewn awyren, bysen i’n hedfan yn uchel.”
Edrychodd Emrys ar Ioan ac wedyn ar yr awyr. “Wel, taset ti’n hedfan mewn awyren, bysen i’n hedfan hefyd.”
“Na, ti ddim yn mynd i hedfan mewn awyren!”
“Ydw! Wi’n mynd i hedfan mewn awyren bob dydd. Bydda i’n hedfan yn uchel! Uwch na ti! Wi’n mynd i hedfan uwch na phopeth.”
Taflodd Ioan garreg fach at y dŵr. Ciciodd Emrys ddarn o wymon. Ochneidiodd Ioan a dwedodd, “Pan wi’n hŷn, wi’n mynd i yrru car.”
“Taset ti’n gyrru car, bysen i’n gyrru car hefyd.”
“Wrth gwrs.”
O’n nhw’n eistedd yn dawel am gyfnod. Wedyn dwedodd Ioan, “Bydd fy nghar i yn fwy na dy gar di.”
“Pa mor fawr?”
“Mor fawr, fyset ti ddim yn ei gredu fe.”
Dwedodd Emrys, “Bydd car mawr iawn iawn gyda fi.”
O’n nhw’n edrych ar y môr. Taflodd Ioan garreg fach arall at y dŵr a dwedodd, “Wyt ti’n moyn mynd i weld beth mae pobl y bwtcamp yn gwneud?”
Atebodd Emrys, “Pam lai.”
A rhedon nhw bant ar hyd y traeth.